Croeso - Welcome
Croeso i wefan Ysgol Gymraeg Sant Curig
Nod ein gwefan yw i geisio cryfhau’r berthynas rhwng Ysgol a chartref yn ogystal a hysbysu rhieni sy’n ceisio dewis Ysgol i’w plant.
‘Tyfwn Ar Ein Taith’
Rhown gyfle i bawb;
- I lwyddo mewn awyrgylch hapus a diogel
- I wireddu’r freuddwyd o Gymry dwyieithog.
Croeso i Ysgol Gymraeg Sant Curig! Lleolir yr ysgol ynghanol tref Y Barri ym Mro Morgannwg. Rydym yn ysgol hapus a chroesawgar sydd a’i chalon yn y gymuned. Datblygwn ein disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol, galluog, hyderus a’n ddinasyddion fyd eang.
Rydym yn ymfalchio yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn drwy’r ysgol. Ac yn yr un modd, rydym hefyd yn ymfalchio yn yr awyrgylch gyfeillgar a gofalgar sydd bob amser i’w weld. Mae Lles disgyblion yn ganolbwynt i bob peth da sy’n digwydd yma yn Sant Curig.
Mae llawer o ymwelwyr i’r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi pob disgybl ac yn credu y dylai eu hamser yn yr Ysgol fod yn werthfawr ac yn fythgofiadwy.
Mae croeso i chi ymweld â ni. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad ar:
Welcome to Ysgol Gymraeg Sant Curig’s Website
We hope that this website will help us in our aim to strengthen relationships between home and school as well as to inform parents who are considering choosing a school for their children.
‘Tyfwn Ar Ein Taith’ (We Grow On Our Journey)
We give each child the opportunity;
- To succeed in a happy and safe environment
- To realise the dream of bilingual citizenship in Wales.
Welcome to Ysgol Sant Curig! The school sits in the middle of the Town of Barry in the Vale of Glamorgan. We are a happy and welcoming school that is at the heart of its community. We develop our children to be global citizens who are independent, intelligent and confident learners.
We take pride in the broad, balanced and comprehensive education that we provide throughout the school. In that same way, we also take pride in the friendly and caring environment that is always visible in the school. The wellbeing of our pupils is the focus of all that is good here at Sant Curig.
Many visitors to the school often refer to the warm welcome, courtesy and maturity of our pupils. We hope this reflects the fact that we appreciate every pupil and strive to show them that they are valued, and that in turn their time spent at school should be valuable and memorable.
We welcome visitors to school. If you would like to visit, please contact us to arrange a suitable time and date: